Cipolwg ar Sgiliau ar gyfer Diwydiant
Ar gyfer capsiynau caeedig, gwyliwch y fideo YouTube yma
Beth yw Sgiliau ar gyfer Diwydiant?
Yn yr hinsawdd economaidd gystadleuol ac anfaddeugar sydd ohoni heddiw, mae’n rhaid i fusnesau fod yn ymatebol, yn hyblyg ac yn gallu ymateb yn gyflym i amodau’r farchnad.
Mae Sgiliau ar gyfer Diwydiant 2 yn parhau i adeiladu ar lwyddiant y prosiect blaenorol (a lansiwyd yn 2012), gan sicrhau bod gan fusnesau yn ne-orllewin Cymru arbenigedd a set sgiliau priodol, er mwyn addasu a chroesawi newid, bydd yn ei dro yn eu helpu’r busnesau i ffynnu ac i dyfu.

Trwy ddarparu hyfforddiant cymorthdaledig sy’n benodol i’r sector yn berthnasol i’r gwaith, mae Sgiliau ar gyfer Diwydiant 2 yn gweithredu ar draws amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys:

Peirianneg

Modurol

Gofal

Adeiladu

Bwyd

TGCh